Trydar swyddogol Cyngor Sir Ynys Môn. Caiff y cyfrif ei fonitro rhwng 8.30yb-5.00yp Dydd Llun-Gwener. Mewn argyfwng: (01248 750057). English:
@angleseycouncil
Dewch i Siarad: Arolwg Byw ar Ynys Môn – Dywedwch beth sy’n bwysig i chi!
Rydym yn dymuno clywed eich barn ar bopeth o drafnidiaeth i dai a’r ffordd mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau. Gellir gweld yr arolwg ar ein gwefan rhwng 7/10-15/11:
Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid ar gyfer gosod llwybr bordiau plastig wedi’i ailgylchu yn lle’r un pren presennol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llyn Maelog.
Rhannwch eich profiadau a’ch awgrymiadau yma:
Arolwg Byw ar Ynys Môn – Dywedwch beth sy’n bwysig i chi yn eich cymuned!
Rydym eisiau clywed eich barn ar bopeth o drafnidiaeth i dai, a’r ffordd mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau. Gellir gweld yr arolwg ar ein gwefan rhwng 7/10-15/11:
Cynhelir ein Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio-Addysg a Datblygu Cymunedol Cynaliadwy : 15/10/2024, 14:00.
Cewch wylio'r darllediad yn fyw neu wylio wedyn drwy ddilyn y linc yma:
Os bydd arnoch angen presgripsiwn rheolaidd ar frys y penwythnos yma, gwiriwch i weld a yw'ch fferyllfa leol yn cynnig 'Cyflenwad o Feddyginiaethau Brys' cyn cysylltu â 111.
Gallwch ddod o hyd i'ch fferyllfa agosaf a'i horiau agor yn .
#HelpuNiHelpuChi
"
Mae heddiw’n
#DyddArthritisyByd
, diwrnod i godi ymwybyddiaeth o arthritis a’i effaith. Mae arthritis yn un o brif achosion poen parhaus yng Nghymru.
Os ydych chi’n byw gydag arthritis, mae Cymru Versus Arthritis yma i chi gyda gwybodaeth a chefnogaeth:
❄️Diwrnod Agored Heneiddio’n Dda dros y Gaeaf❄️
Cyfle i gymdeithasu dros baned a chinio ac ymweld â llu o stondinau gwybodaeth i gefnogi chi neu aelodau o’r teulu i heneiddio’n dda dros y gaeaf.
Gyda chwestiwn am y digwyddiad? Cysylltwch â SionedYoung
@ynysmon
.llyw.cymru
Os ydych ar incwm isel, gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.
Gwiriwch a ydych yn gymwys am fudd-daliadau ⤵️
@cyngormon
@angleseycouncil
Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid ar gyfer gosod llwybr bordiau plastig wedi’i ailgylchu yn lle’r un pren presennol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llyn Maelog.
Rhannwch eich profiadau a’ch awgrymiadau yma:
Ail ffenest Grantiau Cymraeg i Fusnesau ar agor tan ddiwedd y mis.
👇👇👇
Menter Môn - Grantiau i Gefnogi Defnydd yr Iaith Gymraeg mewn Busnes ar Ynys Môn ()
@cyngormon
@_busnescymru
@HwbMenter
Mae'r Cyngor Sir wedi derbyn cyllid ar gyfer gosod llwybr o fyrddau plastig wedi’i ailgylchu yng Ngwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy.
Helpwch ni i wella profiad ymwelwyr yn Nant y Pandy drwy ateb ein harolwg byr:
A oes gennych chi hen luniau o grŵp, glwb neu ddigwyddiad chwaraeon ar Ynys Môn hoffech ei gyfrannu i'r arddangosfa Atgofion Chwaraeon Ynys Môn?
I gyfrannu, danfonwch gopi clir o'ch llun/lluniau dros e-bost, ynghyd ac unrhyw gyd-destun i EbanGeal
@ynysmon
.llyw.cymru erbyn 07/10.
Yn dilyn eich adborth ar y cyfyngiadau 20mya a gyflwynwyd yn Ynys Môn, rydym wedi cyhoeddi rhestr o ffyrdd y gofynnwyd i ni edrych ar.
Byddwn yn adolygu’r sylwadau yr ydym wedi eu cael gan eu hasesu yn erbyn y canllawiau diwygiedig. Gweler y rhestr yma: