Disgyblion Blwyddyn 10 yn perfformio olygfa o ‘Romeo a Juliet’ yn ystod gwers Saesneg bore heddiw. Year 10 pupils performing a scene from ‘Romeo and Juliet’ during their English lesson this morning.
Blwyddyn 10 yn cael bod yn rhan o weithgareddau Tim Troseddau Seiber gan Heddlu Gogledd Cymru. North Wales Police Cyber Crime Team taking Year 10 through their paces.
Llongyfarchiadau mawr Osian Morris ar ddod yn Bencampwr Cymru yn ei oedran mewn cystadleuaeth beicio mynydd dros y penwythnos. Ymlaen rwan i gynrychioli i wlad dros y misoedd nesa. Pob lwc i chdi!
Congratulations Osian Morris on becoming Welsh Champion for his age in a mountain biking competition over the weekend. All the best as he prepares to represent his country over the coming months!
Rhai o'r disgyblion Blwyddyn 8 wedi cymeryd rhan yn gystadleuaeth Mathemateg a drefnwyd gan y Gymdeithas Wyddonol eleni. Llongyfarchiadau i Cynan Batten a Cai Williams - Tystysgrif Safon Uchel ac i Caio Jones - Tystysgrif Safon Uchel Iawn - Da iawn chi Bl.8 set 1.
Ail ddiwrnod ymweliad bl6 â’r ysgol heddiw a phawb yn mwynhau, dysgu a gwneud ffrindiau newydd! Year 6’s second day visit to school today and everyone enjoying themselves, learning and making new friends!
Daeth disgyblion bl6 atom am y diwrnod ddoe a phawb yn mwynhau canu a recordio Anthem Dalgylch Brynrefail yn y neuadd. Yn y pnawn hefyd cafwyd llawer o hwyl yn gwylio Sioe Steddfod yn hysbysebu Eisteddfod Genedlaethol Boduan yr ha' yma! Diolch i Tudur Philips am y sioe!
Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion gymerodd ran yn Ras 5K Llanrug neithiwr. Gwaith trefnu gwych gan staff Ysgol Gynradd Llanrug a bu hyd yn oed rhai o’n staff ni yn cystadlu! Da iawn pawb!
Llongyfarchiadau i Sam Booth, disgybl Bl.10 ac aelod brwd o glwb pel-fasged Dreigiau Caernarfon , ar gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Nhwrnament Pel-fasged Bechgyn Dan 15eg y Tair Gwlad yn Dundee ar 27ain a 28ain o Fai.